Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 18 Ionawr 2023
Amser:
10.16 -
12.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13171
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip Jason Thomas, Llywodraeth Cymru Dean Medcraft, Llywodraeth Cymru Nicky Guy, Llywodraeth Cymru Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Owain Lloyd, Llywodraeth Cymru Bethan Webb, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Craig Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Cafodd dechrau cyfarfod y Pwyllgor ei oedi oherwydd materion yn ymwneud â phresenoldeb Gweinidogion.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cadeirydd, Delyth Jewell AS. Cytunodd y Pwyllgor i ethol Heledd Fychan AS yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd dros dro’r Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
2 Gwaith Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am wybodaeth ychwanegol yn ymwneud â'r sesiwn.
3 Gwaith Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Sesiwn Dystiolaeth gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am wybodaeth ychwanegol yn ymwneud â'r sesiwn.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o’r ddwy eitem gyntaf yn y cyfarfod sydd wedi’i drefnu ar 2 Chwefror 2023
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Ôl-drafodaeth breifat
6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Amgueddfa Cymru mewn perthynas â'i waith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24.
7 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Ar-lein (Rhif 3 a Rhif 4)
7.1 Nododd y Pwyllgor y Nodyn Cyngor Cyfreithiol a chytunwyd i ystyried Adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf, a drefnwyd ar gyfer 2 Chwefror 2023.
8 Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i Benodiadau Cyhoeddus: Trafod gohebiaeth ddrafft
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytuno arni fel y’i drafftiwyd.